GWEUNDIR GRUGOG
Ers yr ail ryfel byd, collwyd 44% o'r tir grugog ar
fynyddoedd y Berwyn, yn bennaf oherwydd
gwelliannau amaethyddol a choedwigaeth. Er hyn,
mae'r mynyddoedd hyn, sy'n cwmpasu Llyn Efymwy,
yn dal i gynnal yr ardal fwyaf o weundir grugog sy'n
weddill yng Nghymru. Ohenvydd diflaniad y grug,
mae nifer o adar sy'n bridio yn y cynefin hwn wedi
prinhau yng Nghymru. Ymhlith y rhywogaethau hyn
mae'r grugiar goch, y cudyll bach, y boda tinwen a'r
grugiar ddu. Bwriad Ilawer o'r gwaith rheolaeth ar y
warchodfa yw ceisio gwella cyflwr y grug er mwyn
annog yr adar hyn, ynghyd d rhai eraill sy'n
nodweddiadolo weundiroedd.
|
COEDWIGOEDD DERI
Gwnaed Ilawer o waith ar y warchodfa yn yr 1980'au i sicrhau parhad y coedwigoedd deri ac i greu tua 100 hectar (200 erw)o goedwigoedd newydd. Ymhlith yr adar sydd wedli elwa o~r gwaith hwn y mae'r gwybedog brith, y tingoch, telor y coed, y gnocell fraith fwyaf, delor y cnau a'r dylluan frech.
Mae amrywiaeth helaeth o flodau, mwsoglau, rhedynau,
ffwng, cen a thrychfilod yn gysylltiedig ~ choedwigoedd
deri. Weithiau, o Cuddfan y Garsiwn, gallwch fod yn
ddigon ffodus i weld gloynnod byw hardd y brithribin
borffor yn hedfan yn uchel yng nghanopi'r coed.
|
COEDWIG GONIFFERAIDD
Mae'r 2000 hectar (5000 erw)o goedwig fasnachol o
gwmpas y Ilyn wedi creu cynefin ychwanegol sy'n cael ei
ddeh~yddio gan sawl rhywogaeth o aderyn, fel y dryw
eurben bychan a'r titw penddu mwy cyffredin. Ymhlith
rhai o'r rhywogaethau mwy anarferol a geir yn y fforest y
mae gwalch Marthin, y gylfin groes, y pila gwyrdd, y
bwncath, y gigfran a'r troellwr.
|
TIR FFERM
Ceir sawl rhywogaeth o degeiriannau yn tyfu yma,
gan gynnwys y tegeirian brych a'r tegeirian
Ilydanwyrdd. Mae rhai o'r caeau Ilaith yn lecynnau
bridio pwysig i ieir bach yr haf fel y fritheg berlog
fach. Mae glaswelltir Ilaith hefyd yn bwysig i adar fel
y gylfinir a'r giach, tra bod crec yr eithin a
chorhedydd y coed i'w canfod ar y Ilethrau rhedynog
sychach.
|